Gweithgareddau LLAIS

 

 

Ioan GruffuddYn cyflwyno Noddwr LLAIS: Ioan Gruffudd yr Actiwr o Hollywood

 

 

Mae’r actiwr Cymreig Ioan Gruffudd, seren y byd ffilmiau yn Hollywood, wrth ei fodd i fod yn Noddwr LLAIS.

 

Ganwyd Gruffudd ym mhentref Llwydcoed ger Aberdâr. Dechreuodd ei yrfa yn 13 oed pan ymddangosodd yn y ffilm deledu Gymreig Austin ac yna yn yr opera sebon Cymreig Pobol y Cwm o 1987 tan 1994. Ym 1992, pan oedd yn 18 oed, mynychodd Academi Frenhinol Celf Ddramatig (RADA) yn Llundain a byth oddi ar hynny mae wedi ymddangos mewn dramau teledu a ffilmiau enwog megis Titanic, 102 Dalmations, King Arthur a Fantastic Four. Yn ddiweddar, byddech o bosib wedi ei weld yn y ffilm Secret of Moonachre gyda Dakota Blue Richards.

 

“Mae hyn yn newyddion cyffrous ac rydym wrth ein bodd bod actiwr mor enwog wedi cytuno i gefnogi LLAIS”, dywedodd Eleri Retallick, Prif Swyddog y Celfyddydau, Cyngor Sir Caerfyrddin.

 

 

 

 

 

 

 

 

 


 

Noson Gala LLAIS

 

Noson Gala LLAISMae pobl fwyaf dawnus Sir Gaerfyrddin yn ymddangos ar lwyfan am eu NOSON GALA unigryw. Dan ymbarél LLAIS, mae saith o Gwmnïau Theatr Ieuenctid mwyaf blaenllaw’r sir yn perfformio ar yr un llwyfan, ar yr un noson am y tro cyntaf erioed!!

 

Mae prosiectau eraill wedi cynnwys Gŵyl Dylan Thomas lle cyflwynodd Theatrau Ieuenctid y sir amrywiaeth o ddigwyddiadau i gofio 50 mlynedd ers marwolaeth Dylan Thomas a’r cynhyrchiad sirol Exit/Allan a ysgrifennwyd gan Richard Stillgoe. Nod hirdymor LLAIS yw sefydlu Theatr Ieuenctid Sir Gaerfyrddin a fydd yn cael ei bwydo gan y cwmnïau annibynnol.

 

Trwy gydol y flwyddyn mae pob Theatr Ieuenctid yn perfformio i gynulleidfaoedd o fewn ardaloedd eu hunain, ond rhoddodd y GALA gyfle i bobl ifanc Sir Gaerfyrddin i gydweithio, ac i gynulleidfaoedd gael gweld doniau pobl ifanc ardaloedd cyfagos.

 

 

 

 

 

 

 


 

 

© LLAIS. All Rights Reserved.