
CAROUSEL OPERA IEUENCTID CAERFYRDDIN WEDI’I ENWEBU FEL SIOE ORAU 2008
Dyfarnwyd cynhyrchiad yr Opera Ieuenctid o Carousel fel Cynhyrchiad Ieuenctid Gorau Iwerddon a Chymru yn 2008. Roedd y Cyfarwyddwr Artistig, Adrian Rowlands, yn bresennol yng Nghyfarfod Cyffredinol Blynyddol NODA i dderbyn y wobr hon. Hefyd, roedd wrth ei fodd i dderbyn gwobr am y poster gorau.
LLWYDDIANT MEWN SEREMONI GWOBRAU FFILM I OPERA IEUENCTID SIR GAERFYRDDIN
Yng Ngala Dangosiad Cyntaf "Its My Shout" 2008 a gynhaliwyd ym Mhafiliwn Brenhinol Porthcawl ar ddydd Sadwrn Hydref 25ain, derbyniodd aelodau’r Opera Ieuenctid, Rhys Davies a Cuan Wyn Rowlands, wobrau am yr Actor Iau Gorau a’r Actor Cynhaliol Gorau. Cafwyd ymateb stwrllyd gan y gynulleidfa o enwogion i gydnabod rolau’r bechgyn yn "Egin", ffilm cyfrwng Cymraeg a’r fersiwn Saesneg “The Bulb”, sy’n portreadu effeithiau emosiynol bwlio. Roedd y Cyfarwyddwr Nerys Wyn Davies, sydd hefyd yn cyfarwyddo rhaglen S4C "Pobol y Cwm", wrth ei bodd i dderbyn Gwobr y Ffilm Gorau am "Egin" sef y ffilm Gymraeg gyntaf i’w chyflwyno yng ngwobrau "It's My Shout".
OPERA IEUENCTID CAERFYRDDIN I DDERBYN GWOBR UCHEL SIRYF DYFED.
Yn dilyn ei phresenoldeb yn ein sioe ddiweddar South Pacific, mae Uchel Siryf Dyfed Mrs Claire Mansel Lewis yn dymuno cyflwyno gwobr i’r Opera Ieuenctid yn ystod Seremoni Gwobrwyo’r Uchel Siryf yng Ngholeg Llanymddyfri. Ysgrifenna, “Bu’n bleser mawr cael mynychu a hoffwn eich llongyfarch ar safon uchel y cynhyrchiad. Gallaf ond ddychmygu faint o waith paratoi sydd angen ei wneud i gynhyrchu sioe fel hon; nid yn unig yr actio a’r canu oedd o safon uchel iawn, ond roedd y set a’r gwisgoedd yn wych hefyd. Roeddwn wedi synnu ar oed y bobl ifanc a oedd yn cymryd rhan yn y sioe a gallwn weld bod opera ieuenctid Sir Gaerfyrddin yn adnodd gwerthfawr ar gyfer y rheiny sydd am yrfa yn y maes. Mae’n rhoi ffocws a chyfleoedd i bobl ifanc i ddysgu sgiliau newydd”.

Mae Grŵp Theatr Gerdd Ieuenctid mwyaf blaenllaw Dyfed yn darganfod, meithrin a datblygu ser llwyfan a sgrin y dyfodol. www.youthopera.co.uk
Bydd yr Opera
Ieuenctid yn dathlu ei ben-blwydd yn 30 oed yn 2010; tri degawd o roi cyfleoedd i bobl ifanc ddarganfod eu doniau ym mhob agwedd o’r byd theatr a pherfformio cerddorol.
Mae’r Opera
Ieuenctid yn cyflwyno sioeau cerdd bob hanner tymor yn Chwefror yn Theatr y Lyric yng Nghaerfyrddin ar ôl cynnal clyweliadau blynydddol ym mis Medi. Cynhelir ymarferiadau a gweithdai ar ddydd Mawrth, dydd Iau a dydd Sul yn Ysgol Gynradd Johnstown, Caerfyrddin.
Os hoffech fod yn rhan o’r cwmni bywiog hwn sy’n ffocysu ar ieuenctid y sir, ewch i’n gwefan www.youthopera.co.uk am fanylion neu cysylltwch ag Adrian ar 07976 455665