Latest News

Next week we're back in the Lyric with an exciting pproduction of "The Crucible" by Arthur Miller.

Bryony Evett, who is directing this production, has created a valuable education pack of this play which will be a crucial resource for the teachers in the classroom. This is all part of Merlin's philosophy of working closely with the community and to help to broaden the influence of live theatre.

Also watch this space for exciting developments with our SPELLBINDERS group this year.

Theatr Ieuenctid Merlin

 

Gwefan: www.ti-merlin-yt.org

 

Merlin Youth Theatre Mae Theatr Ieuenctid Merlin wedi’i lleoli yng Nghaerfyrddin ac fe’i sefydlwyd ym 1993 gan Tony Layton, y Cyfarwyddwr Artistig presennol. Mae’r cwmni yn elusen gofrestredig sy’n cynnig addysg a hyfforddiant theatr i blant a phobl ifanc rhwng 9 - 25 oed. Ynghyd â llawer o oedolion proffesiynol, caiff Merlin ei gefnogi gan bwyllgor o rieni a gwirfoddolwyr sydd hefyd yn darparu eu harbenigedd proffesiynol mewn cyllid, marchnata, materion statudol, y gyfraith, codi arian, personél a datblygiad plant a’r ieuenctid.

 

Er mwyn cadw at ein traddodiad o weithredu fel ‘theatr ieuenctid’, dim ond yr aelodau ifanc sy’n perfformio yn ein cynyrchiadau. Caiff y plant a’r bobl ifanc eu hannog i ymuno â Merlin i gyfrannu at agweddau technegol, dylunio a cherddorol y cynyrchiadau.

 

Merlin Youth Theatre Merlin Youth Theatre Merlin Youth Theatre Merlin Youth Theatre Merlin Youth Theatre Merlin Youth Theatre

 

Mae llawer o’n aelodau yn parhau i gadw mewn cysylltiad â’r cwmni ac maen nhw’n barod i ddangos eu doniau megis cyfarwyddo, goleuo, dylunio set, llwyfannu – sgiliau a ddatblygwyd yn ystod eu profiad gyda’r cwmni.

 

Yn ddiweddar, mae Merlin wedi creu grŵp newydd o’r enw “SPELLBINDERS” ar gyfer ein haelodau iau. Mae’r grŵp yn darparu ar gyfer pobl ifanc rhwng 9 -14 oed. Maen nhw’n cwrdd bob dydd Sul am 10.00am tan 12 canol dydd yng Nghanolfan Addysg Gymunedol Caerfyrddin.

 

Mae’r grŵp hŷn yn cwrdd am 11.30 tan 3pm ar ddydd Sul yn yr un adeilad. Maen nhw hefyd yn cwrdd ar nos Fercher am 5.30pm tan 8pm yn neuadd Ysgol y Frenhines Elisabeth.

 

 

Merlin Youth Theatre Merlin Youth Theatre Merlin Youth Theatre Merlin Youth Theatre Merlin Youth Theatre Merlin Youth Theatre

 

Os hoffech ymuno â’r cwmni, cysylltwch â’r theatr neu ffoniwch: 01554 775375. Croeso i bawb ond mae yna restr aros. Edrychwn ymlaen at groesawu aelodau newydd. Elusen Gofrestredig 1067352

 

Gwybodaeth ychwanegol.

 

Cynhyrchiadau nesaf.

 

MAE THEATR IEUENCTID MERLIN

YN CYFLWYNO'R

SIOE GERDD BROADWAY ENWOG - "Guys and Dolls"

 

© LLAIS. All Rights Reserved.