
Gwefan: www.messupthemess.co.uk
Mae Mess Up The Mess yn cwrdd bob nos Fawrth rhwng 7-9pm yn Neuadd Eglwys Gymunedol y Santes Catherine ym Mrynaman Uchaf. Rydyn ni’n rhedeg gweithdai drama sy’n ymdrin ag ystod eang o bynciau megis gwaith theatr a gwneud masgiau, a chyflwyno Shakespeare i ddechreuwyr. Rydyn ni’n rhedeg o leiaf dau brosiect perfformio mawr y flwyddyn sy’n cynnwys ysgrifennu sgriptiau, dyfeisio, gwneud ffilmiau, golygu, technoleg theatr a pherfformio.
Sefydlwyd Cwmni Theatr Mess Up The Mess er mwyn rhoi mwy o gyfleoedd i ymarferwyr theatr ôl-raddedig, i gynnig profiadau perfformio dwyieithog a deinamig o greu theatr i bobl ifanc ac i sefydlu cwmni cynhwysol sy’n creu theatr arloesol i ddenu cynulleidfaoedd amrywiol newydd. Mae Mess Up The Mess yn gweithio â phobl ifanc a gweithwyr proffesiynol ar gynyrchiadau o safon uchel sy’n dangos ein harddull aml-gyfryngol enwog ac mae’n apelio at gynulleidfaoedd newydd sydd eisoes wedi’u hymyleiddio o wneud theatr draddodiadol.
Peri Thomas - Rheolwr Celfyddydau Ieuenctid
ebost: peri@messupthemess.co.uk
Rhif ffôn / Neges destun: :07966 294 188