
Digwyddiad nesaf
Yn syth wedi'r Pasg mae Ysgol Berfformio Dyffryn Tywi yn bwriadu cyflwyno sioe grefyddol gyfoes yn dwyn y teitl "Wele Dy Fywyd". Dyma sioe fywiog apelgar sy'n cynnwys cerddoriaeth o'r sioe boblogaidd Mamma Mia, y gair llafar a dawnsio. Bydd holl aelodau'r Ysgol yn rhan o'r cynhyrchiad.
Mae Ysgol Berfformio Dyffryn Tywi yn cwrdd yn wythnosol yng Ngholeg y Drindod Caerfyrddin. Cynhelir sesiwn bobol ifanc 11 i 18 oed rhwng 6 ag 8 o’r gloch Nos Lun a sesiwn i blant Blynyddoedd 5 a 6 ysgolion cynradd rhwng 6 ag 8 o’r gloch ar Nos Fercher. Mae aelodaeth yr ysgol yn newid o dymor i dymor-ar hyn o bryd mae dros 70 o aelodau gan yr Ysgol. Daw’r plant yn bennaf o ddalgylch Caerfyrddin er bod ambell aelod yn teithio o bell.
Bwriad yr Ysgol yw datblygu sgiliau perfformio plant a phobol ifanc gan ganolbwyntio ar actio, dawnsio a chanu.Yn ogystal â hyn mae’r aelodau yn cael y cyfle i ddatblygu hyder,sgiliau cyfathrebu a chymdeithasol a hynny trwy gyfrwng yr iaith Gymraeg.
Mae’r Ysgol yn cyflwyno sioe yn flynyddol yn Y Lyric yn ystod yr Hydref – eleni y dewis oedd “Annie.”
Fis Gorffennaf 2008 cyflwynodd yr aelodau o dan 12 oed sioe yn Theatr Halliwell yn dwyn y teitl “O Dan y Don” gan Gareth F,.Williams ac Euros Rhys. Caiff yr aelodau gyfle i gymryd rhan mewn dramau- yn y gorffennol bu’r Ysgol yn cystadlu yng Ngŵyl Ddrama’r Urdd gan lwyddo yn y fan honno. Bu’r ysgol yn llwyddiannus hefyd mewn amrywiaeth o gystadlaethau yn Eisteddfod yr Urdd a’r Eisteddfod Genedlaethol Mae cyfle i’r plant a’r bobol ifanc gymryd rhan mewn cyngherddau, gwasanaethau Nadolig a bod yn rhan o nosweithiau cerddorol lle cyflwynir gweithiau megis Teilwng yw’r Oen ac Atgof o’r Sêr. Mae cyfle hefyd i’r aelodau fynychu clyweliadau ar gyfer cyfresi teledu- un aelod amlwg a lwyddodd yn y cyfeiriad hwn oedd Elen Morgan a fu’n aelod o gast Pobol y Cwm am gyfnod.
Mae’r aelodau a’r hyfforddwyr yn gweithio’n galed yn yr Ysgol ond hefyd mae’r cyfan yn hwyl ac yn fwynhâd