Cyfansoddiad LLAIS

 

1. Enw’r Gymdeithas fydd LLAIS (Llwyfan i Actorion Ifanc y Sir).

 

2. Amcanion y Gymdeithas yw:

 

a) Creu cyfleoedd i bobl ifanc Sir Gaerfyrddin ddatblygu sgiliau theatrig mewn actio, dawnsio, canu, a sgiliau technegol fel llwyfannu, goleuo, cynhyrchu etc

b) Annog trafodaeth a chydweithrediad rhwng Cwmnïau Theatr Ieuenctid Sir Gaerfyrddin.

c) Rhoi anogaeth i ddatblygu gwaith artistig newydd.

 

3. Rheolaeth

 

a) Bydd y Gymdeithas yn cael ei rheoli gan Grŵp Llywio LLAIS.

b) Swyddogion y Gymdeithas fydd y Cadeirydd, yr Is-gadeirydd, yr Ysgrifennydd a’r Trysorydd.

c) Fel rheol, bydd swyddogion y pwyllgor yn cael eu hethol yn flynyddol yn y Cyfarfod Blynyddol Cyffredinol.

d) Gall y Pwyllgor Llywio gynnwys unrhyw nifer o gynrychiolwyr o bob Cwmni ond maent yn gyfyngedig i un bleidlais i bob Cwmni.

e) Bydd tri chynrychiolydd cwmni yn gworwm.

f ) Mae gan y Cadeirydd bleidlais a phleidlais fwrw pan fydd angen.

g) Gall y Pwyllgor Llywio gyfethol aelodau arbenigol o dro i dro ond ni fydd ganddynt bleidlais.

 

4. Cyllid

 

a) Bydd cyllid y Gymdeithas yn cael eu defnyddio i hyrwyddo amcanion y Gymdeithas yn unig.

b) Gall aelodau’r Pwyllgor Llywio gael tâl yn uniongyrchol neu’n anuniongyrchol am wasanaethau i LLAIS neu am dreuliau derbyniol eraill, ar yr amod y cytunwyd ar hynny ymlaen llaw gan gworwm o’r Pwyllgor.

c) Os digwydd i LLAIS ddod i ben, bydd eiddo LLAIS yn cael ei realeiddio ac ar ôl talu’i holl ddyledion a rhwymedigaethau, bydd y cyfryw eiddo yn cael ei dalu i’r Cwmnïau sy’n aelodau ohono neu ei ddosbarthu yn eu plith.

d) Bydd y Trysorydd yn cadw cyfrifon priodol sy’n dangos yr holl symiau a dderbyniwyd ac a dalwyd a bydd ganddo awdurdod i roi derbynebau am arian a dalwyd i’r Gymdeithas. Bydd sieciau ar holl gyfrifon LLAIS yn cael eu llofnodi gan unrhyw ddau o’r canlynol: y Cadeirydd, yr Ysgrifennydd a’r Trysorydd, ond ni fydd unrhyw arian ychwanegol yn cael eu gwario sy’n uwch na’r gyllideb y cytunwyd arni heb ganiatâd y Pwyllgor Llywio ymlaen llaw.

 

5. Y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol

 

a) Bydd y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol yn cael ei gynnal bob blwyddyn ar adeg sy’n gyfleus i swyddogion y Gymdeithas a’r unig faterion i’w trafod fydd cadarnhau’r cofnodion, adroddiad yr Ysgrifennydd, adroddiad y Trysorydd (gan gynnwys y datganiad blynyddol am y cyfrifon), ethol swyddogion ac unrhyw faterion eraill sy’n briodol i Gyfarfod Cyffredinol Blynyddol.

b) Bydd o leiaf 14 diwrnod o rybudd yn cael ei anfon at bob aelod cyn y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol.

c) Bydd angen tri chwmni i gael cworwm ar gyfer y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol.

d) Bydd y datganiad blynyddol am y cyfrifon yn cael ei ddosbarthu o leiaf saith niwrnod cyn y cyfarfod.

 

6. Cyfarfod Cyffredin Arbennig

 

a) Mae gan y Pwyllgor Llywio ddisgresiwn i alw Cyfarfod Cyffredin Arbennig, neu ofyn i Ysgrifennydd LLAIS amdano, gan nodi pwrpas y cyfryw gyfarfod.

b) Rhaid i’r Ysgrifennydd roi leiaf saith niwrnod o rybudd i bob Cwmni o’r cyfarfod gan nodi’r materion i’w trafod.

c) Ni cheir trafod unrhyw faterion eraill yn y cyfryw gyfarfodydd.

 

7. Cyfarfodydd y Pwyllgor Llywio

 

a) Bydd y Pwyllgor Llywio yn cyfarfod o leiaf bob chwarter.

b) Bydd unrhyw fater neu gwestiwn na ddarperir ar ei gyfer yn y rheolau hyn yn cael ei drafod gan y Pwyllgor Llywio a bydd ei benderfyniad ef yn derfynol.

 

8. Aelodaeth

 

a) Mae LLAIS yn agored i unrhyw Gwmni Theatr Ieuenctid Cymunedol yn Sir Gaerfyrddin, ar yr amod eu bod yn cytuno i hyrwyddo amcanion y gymdeithas.

 

9. Cyffredinol

 

a) Ni ellir newid y cyfansoddiad hwn ac eithrio mewn Cyfarfod Cyffredin Arbennig a rhaid i bob aelod gael hysbysiad ysgrifenedig ohono sy’n nodi manylion llawn y newidiadau arfaethedig.

b) Bydd pob aelod yn cael copi o’r cyfansoddiad pan fydd yn ymuno â’r gymdeithas.

 

© LLAIS. All Rights Reserved.